Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2021
Amser:
09.00 -
10.16
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Gofynnodd Darren Millar i'r amser ar gyfer Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Cwricwlwm Cymru, gael ei ymestyn o ystyried nifer yr Aelodau a allai fod yn dymuno siarad arno. Dywedodd y Llywydd y bydd yn defnyddio ei disgresiwn i geisio sicrhau bod pob Aelod sy'n dymuno siarad yn gallu gwneud hynny.
Dydd Mercher
Cyfarfod llawn rhithwir
Dywedodd y Llywydd ei bod, ar ôl ymgynghori ag arweinwyr grwpiau, wedi penderfynu y cynhelir y Cyfarfod Llawn mewn fformat rhithwir yr wythnos hon oherwydd y sefyllfa bresennol mewn perthynas â Coronafeirws, ond bod Aelodau a'u staff yn parhau i allu cael mynediad i Dŷ Hywel at ddibenion busnes, pan fydd angen hynny o ran llesiant neu os nad yw eu hamgylchiadau'n caniatáu iddynt weithio'n effeithiol gartref.
Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes roi gwybod i'r Aelodau nad oes unrhyw seibiannau wedi'u trefnu felly yn ystod y trafodion ac y bydd ymyriadau yn y Cyfarfod Llawn rhithwir yr wythnos hon yn aros yr un fath ag y buont mewn trafodion hybrid diweddar – dylai Aelodau godi llaw yn gorfforol i nodi pryd y maent yn dymuno ymyrryd.
Adalw
Nododd y Llywydd y byddai unrhyw achos o adalw’r Senedd a fyddai’n ofynnol dros doriad y Nadolig yn digwydd yn rhithwir.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 11 Ionawr 2022 -
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach (45 munud) -
tynnwyd yn ôl
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021 (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 26 Ionawr 2022 -
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 erbyn dydd Llun 10 Ionawr 2022.
4.2 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael), Y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) a'r Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
· cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael) at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 10 Mawrth 2022;
· cyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 17 Chwefror 2022; a
· chyfeirio’r Memorandwm Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 11 Ionawr 2022.
Yn ogystal, cytunwyd y gellid cyfeirio'r Memorandwm ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, a ystyriwyd yn y cyfarfod blaenorol, hefyd at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
5 Pwyllgorau
5.1 Papur gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi caniatâd i Aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ddydd Mercher 9 Chwefror 2022.
6 Amserlen y Pwyllgorau
6.1 Ceisiadau o ran Amserlen y Pwyllgorau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ganiatáu i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gynnal cyfarfod ychwanegol ar brynhawn 14 Chwefror 2022 er mwyn cymryd tystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad i dlodi tanwydd a'r rhaglen cartrefi cynhesach.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ganiatáu i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus gynnal cyfarfod ychwanegol ar fore 17 Chwefror 2022 i ystyried Cyfrifon Blynyddol 2020-21 Llywodraeth Cymru, yn amodol ar osgoi gwrthdaro â chyfarfod Fforwm y Cadeiryddion ar yr un diwrnod.
6.2 Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gylch gorchwyl ac amserlen ar gyfer yr adolygiad, yn amodol ar y safbwyntiau a fynegwyd gan Fforwm y Cadeiryddion yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2021.
7 Busnes y Senedd
7.1 Effaith y Cytundeb Cydweithio ar Fusnes y Senedd
Datganodd Sian Gwenllian fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod Dynodedig.
Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at y goblygiadau i Fusnes y Senedd sy'n deillio o'r Cytundeb Cydweithio.
Roedd y Ceidwadwyr a Jane Dodds o'r farn na ddylid dyrannu'r Gadeiryddiaeth i Blaid Cymru. Roedd Llafur a Phlaid Cymru o'r farn y dylai Cadeiryddiaeth y Pwyllgor Cyllid barhau i gael ei dyrannu i Blaid Cymru. Gan nad oedd mwyafrif ar y Pwyllgor Busnes o blaid, ni fyddai unrhyw newid yn cael ei gynnig. At ddibenion cofnodi, nododd y Llywydd ei barn na ddylai Plaid Cymru gadeirio'r Pwyllgor Cyllid.
Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai enw, cyfrifoldebau a phortffolios yr Aelodau Dynodedig yn cael eu cyhoeddi. Trafododd y Pwyllgor sut i ddarparu ar gyfer rôl Aelodau Dynodedig o fewn trefniadau busnes presennol y Senedd gan gynnwys: cwestiynau, datganiadau, dadleuon; dyrannu amser nad yw'n amser y llywodraeth; pwyllgorau'r Senedd; a'r cyfle i graffu ar Aelodau Dynodedig. Dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu cyhoeddi datganiad pellach ddydd Mercher yn amlinellu ei phenderfyniadau ar faterion o fewn ei disgresiwn.
Byddai'r Pwyllgor Busnes yn ystyried opsiynau ar gyfer craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau Dynodedig ar faterion yn ymwneud â'r Cytundeb Cydweithio mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau i adolygu gweithrediad y Cytundeb ac unrhyw newidiadau a wneir wrth symud ymlaen ac i ddychwelyd atynt maes o law.